Y Coridor Ansicrwydd: Ydy Bellamy yn gwisgo trôns y Ddraig Goch?

Mae yna gyffro mawr ymhlith criw Y Coridor Ansicrwydd wrth i dîm Cymru gychwyn ar gyfnod newydd dan arweiniad Craig Bellamy nos Wener yn erbyn Twrci.

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried y prif bynciau trafod cyn y gêm fawr yng Nghaerdydd.

Beth fydd y tactegau, pa siâp fydd i'r tîm, pwy fydd yn cychwyn? Ac yn bwysicach oll, beth fydd Bellamy yn ei wisgo wrth ochr y cae...?

Cawn hefyd atgof hyfryd gan Malcolm o gyfarfod Sol Bamba, yn dilyn y newyddion hynod drist am farwolaeth ddiweddar cyn-amddiffynnwr Caerdydd.

Y Coridor Ansicrwydd ar BBC Sounds, dolen allanol.