Cau'r ail o ddwy ffwrnais chwyth gwaith dur Port Talbot

Mae miloedd o deuluoedd wedi dibynnu ar waith dur Port Talbot i ddarparu swyddi lleol ers mwy na 100 mlynedd.

Yn ystod yr 1960au, roedd mwy na 18,000 o bobl yn cael eu cyflogi yno.

Ddydd Llun, fe fydd yr ail ffwrnais chwyth yn cau, gan ddod â'r dull traddodiadol o wneud dur yn ne Cymru i ben.

Mae Tata Steel UK wedi addo adeiladu ffwrnais drydan gwerth £1.25bn ar y safle ond ar draws Prydain bydd dros 2,000 o bobl yn colli eu swyddi.

Wrth i'r ail o ddwy ffwrnais chwyth gau, dyma edrych 'nôl ar hanes gwaith dur Port Talbot.

Fideo: Gwaith dur Port Talbot yn agor yn 1951