Achos padlfyrddio: Fideo o Nerys Lloyd yn hysbysu'r heddlu

Mae cyn-heddwas wedi ei charcharu am 10 mlynedd a chwe mis ar ôl i bedwar person farw ar daith padlfyrddio yr oedd hi'n gyfrifol amdani yn 2021.

Bu farw Paul O'Dwyer, Nicola Wheatley, Andrea Powell a Morgan Rogers ar y daith ar Afon Cleddau Wen, Hwlffordd yn Hydref 2021.

Nerys Bethan Lloyd, 39 o Bort Talbot, oedd perchennog cwmni Salty Dog oedd yn rhedeg y daith.

Yn ôl yr erlyniad does dim geiriau i ddisgrifio'r "dinistr ac effaith y digwyddiad" ar y teuluoedd.

Mae'r fideo yma gan yr heddlu yn syth wedi'r digwyddiad wrth i Lloyd egluro beth oedd wedi digwydd.