'Ffarmwr, darlledwr, gwladgarwr': Cofio Dai Llanilar yn y Sioe
Mae canolfan S4C ar faes y Sioe Frenhinol wedi cael ei ailenwi er cof am Dai Jones Llanilar mewn digwyddiad fore Mawrth.
Corlan Dai Llanilar yw'r enw newydd ar adeilad S4C, ac fe gafodd llechen ei dadorchuddio ar furiau'r adeilad.
Mae'r llechen - a gafodd ei gyflwyno gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a hynny ym mlwyddyn Sir Nawdd Ceredigion - yn cyfeirio at Dai Jones fel "Ffarmwr, Darlledwr, Gwladgarwr".
Bu farw Dai Jones yn 78 oed ym mis Mawrth 2022.
Roedd yn wyneb cyfarwydd ar y sianel am flynyddoedd, ac yn fwyaf adnabyddus fel cyflwynydd y gyfres Cefn Gwlad.
Bu hefyd yn cael ei gofio am gyflwyno sawl raglen radio, fel canwr talentog a ffermwr.
Dywedodd Yr Athro Wynne Jones, cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr CAFC: "Dwi'n meddwl fod Dai wedi cyfrannu gymaint i'r sioe ac wedi dod a'r sioe i'r bobl yn eu 'stafelloedd ffrynt oedd yn methu bodoli i'r sioe".
Fe ddisgrifiodd Dai Jones fel "un o drysorau'r genhedlaeth".