Gofal plant: 'Da ni ar gyflog teg ond dydi o ddim yn ddigon'
Mae rhieni plant sy'n iau na dwy oed yng Nghymru yn cael eu "cosbi" wrth orfod talu dros ddwywaith yr hyn mae rhieni yn Lloegr yn ei dalu am ofal plant, yn ôl Oxfam Cymru.
Dyw rhieni plant dan ddwy oed yng Nghymru ddim yn cael cymorth ariannol gan y llywodraeth, tra yn Lloegr gall rhieni hawlio 15 awr am ddim ar gyfer plant rhwng naw mis a dwy oed.
Mae Oxfam Cymru yn dweud bod hynny'n "gosb eithafol ychwanegol i rieni Cymru", ac yn rhybuddio y gallai arwain at ragor o blant yn byw mewn tlodi.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi buddsoddi dros £100m y flwyddyn ar gynnal a datblygu gofal plant o ansawdd uchel.
Mae Ffion Ryan o Lansannan, Sir Conwy, ar gyfnod mamolaeth gyda phlant pum mis, dwy a phedair oed.
"Dwi'n cyfri' fy hun yn lwcus," meddai, gyda hi a'i phartner yn athrawon ac "ar gyflogau teg yn enwedig i ardal wledig fel 'ma".
"Ond 'da ni dal yn strugglo ein hunain."
Mae Alaw Evans yn fam i ddau o blant bach. Mae hi'n gweithio'n rhan amser ac wedi sefydlu busnes ei hun, Babis Del.
Dywedodd: "Dwi'n gweld yn Lloegr mae gofal plant am ddim 'di dod allan i blant lot ieuengach, a pam dydan ni ddim yn yr un sefyllfa yng Nghymru?"