Ysbyty Tregaron: 'Bwriad cau yn sioc i'r gymuned'
Mae nifer o drigolion Tregaron yn flin wedi i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gadarnhau eu bod yn ymgynghori ar y posibilrwydd o gau'r ysbyty lleol.
Yn ôl rhai sy'n byw yn y dre ac sydd ag anwyliaid wedi bod yn yr ysbyty, mae'r bwriad yn "siom" ac yn "warth" ac maen nhw'n dadlau bod angen ysbyty cymunedol fel yr un yn Nhregaron i ryddhau gwlâu yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae diffyg staff yn ei gwneud hi'n "heriol" i ddarparu gofal i gleifion yn yr ysbyty.
Dywed Elin Jones, sy'n cynrychioli Ceredigion yn y Senedd, fod yr ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysbyty sydd â naw gwely yn "newyddion difrifol iawn" a bod yna addewid na fyddai unrhyw newid nes y byddai Cylch Caron yn agor.