Beth yw barn teithwyr ym Mangor am drenau'r gogledd?
Mae arweinwyr busnes yn y gogledd wedi galw ar gwmni Virgin i gamu i'r adwy wrth i ffigyrau ddangos fod dros un ymhob pum trên uniongyrchol i Lundain wedi eu canslo.
Ers 2019 cwmni Avanti sy'n gyfrifol am redeg y gwasanaeth trenau cyflym rhwng Caergybi a Llundain.
Grŵp Virgin Syr Richard Branson oedd yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth am 22 mlynedd cyn hynny, ac mae Cyngor Busnes Gogledd Cymru wedi galw arno i sefydlu llwybr rheilffordd “mynediad agored” ar y lein.
Yn ôl Grŵp Virgin, byddan nhw'n "croesawu'r cyfle i drafod beth sydd ei angen" a'u bod yn "hynod falch o’u hamser yn gwasanaethu teithwyr gogledd Cymru".
Ond yn ôl Avanti, sy'n bartneriaeth rhwng FirstGroup a Trenitalia, maen nhw wedi "ymrwymo’n llwyr i wasanaethu gogledd Cymru" ac yn "gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r materion sylfaenol o ran perfformiad yn ogystal â pharhau i fuddsoddi mewn gwell gwasanaeth".
Beth yw barn teithwyr ym Mangor am wasanaethau trên y gogledd?