Cwestiynau cyflym gyda Bethan Rhys Roberts

Bethan Rhys Roberts fydd yn cynnal Dadl Etholiad Cyffredinol BBC Cymru nos Wener.

Aeth Cymru Fyw i gael cipolwg tu ôl i'r llen yn y stiwdio, ac i holi cyfres o gwestiynau cyflym i Bethan cyn y ddadl fawr.

Bydd Cymru Fyw yn dod â'r diweddaraf i chi o'r ddadl deledu heno ar ein llif byw arbennig, gyda'r darllediad byw ar BBC One Wales i ddechrau am 19:00.