Gavin & Stacey: Ruth Jones yn 'dwli chwarae Nessa'
Daeth sêr y Gavin & Stacey at ei gilydd ar y carped coch yn Llundain yr wythnos hon i wylio'r bennod olaf ar y sgrin fawr.
Dywedodd Ruth Jones mewn sgwrs yn y Gymraeg gyda BBC Cymru Fyw ei bod hi'n "nerfus" ond yn "edrych ymlaen at weld yr ymateb" i bennod ola'r rhaglen.
"Dwi'n dwli ar y sioe a dwi'n dwli ar y cast, y criw," meddai.
"Dwi'n dwli chwarae Nessa achos does dim ots ganddi hi.
"Mae hi'n ffantastig, yn ddewr a chryf," meddai Jones, sy'n gyd-ysgrifennydd ar y rhaglen gyda James Corden.