Cwmni tai Dafydd Hardy yn trosglwyddo'r busnes i'w staff
Mae un o fusnesau gwerthu tai mwyaf y gogledd yn dilyn trywydd cwmnïau fel John Lewis a Cwmni Da wrth drosglwyddo'r busnes i'r gweithwyr.
Dywedodd Dafydd Hardy - perchennog Dafydd Hardy Estate Agents - fod y penderfyniad yn sicrhau fod "legacy" y cwmni'n parhau.
"Mae hwnna'n hollbwysig o ran cadw'r iaith yn fyw o fewn y cwmni a thu allan y cwmni, [a] cadw'r staff sydd gennym ni," meddai.
"Beth sy'n digwydd ydy mae'r staff yn prynu'r cwmni gennym ni, ac yna 'da ni cael rhyw fwrdd ymddiriedolaeth i edrych ar ôl y staff.
"I'r cyhoedd does 'na ddim byd yn newid mewn ffordd."