'Y GIG yn trin y corff heb ystyried y meddwl'

Mae'r gwasanaeth iechyd yn canolbwyntio ar ofal corfforol, heb ystyried yr effeithiau meddyliol, yn ôl dyn ifanc sydd â chyflwr psoriasis.

Cafodd Lewis Vinnicombe, 23, ddiagnosis o psoriasis - cyflwr sy'n effeithio ar y croen - yn ei arddegau cynnar.

Ond mae'n dweud na gafodd yr help oedd ei angen arno, a bod ei iechyd meddwl yn dioddef hyd heddiw oherwydd hynny.

Yn y pendraw fe drodd at wasanaethau preifat am gymorth therapi.

Yn ôl Non Parry o'r grŵp Eden, sydd wedi hyfforddi fel therapydd, "mae'n hawdd iawn cynnig cyffuriau, cyn falle ystyried rhywbeth mor syml â siarad".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwella'r gallu i gael gafael ar gefnogaeth iechyd meddwl yn flaenoriaeth.

Bydd £2m yn mynd at wella gwasanaethau, gan gynnwys therapi seicolegol, meddai llefarydd.

Adroddiad Jacob Morris i raglen Newyddion S4C.