Daeargryn de ddwyrain Asia: 'Nes i feddwl, dwi'n mynd i farw'
Mae menyw o Geredigion sy'n athrawes yn Bangkok wedi dweud ei bod yn meddwl y byddai'n marw yn ystod daeargryn yn ne ddwyrain Asia.
Roedd Isabelle Willis, 26, o Gei Newydd yn ei fflat ym mhrifddinas Gwlad Thai pan ddechreuodd y cryndod.
"Dwi'n siŵr, pan wnes i weld tŷ fi'n dechrau cracio, nes i feddwl, 'dwi'n mynd i farw'," meddai.
"'Sa i wedi gweld unrhyw beth fel 'na o'r blaen. Roedd e'n scary a horrible."
Y gred yw bod mwy na 1,700 wedi marw ym Myanmar lle'r oedd canolbwynt y daeargryn oedd yn mesur 7.7.
Mae miloedd yn rhagor wedi eu hanafu neu ar goll, yn ôl awdurdodau, gan gynnwys yn ninas Bangkok.