Jess Davies yn sôn am y camddefnydd o'i lluniau ar-lein
Am flynyddoedd mae lluniau o Jess Davies, o Aberystwyth, wedi cael eu defnyddio ar-lein heb ei chaniatâd.
Mae'r ymgyrchydd dros hawliau merched wedi cyhoeddi llyfr sy'n edrych ar y twf ym mhoblogrwydd cynnwys yn erbyn merched ar-lein a'r diwylliant sy'n mynd law yn llaw â hynny, ac yn cynghori o brofiad sut mae goroesi hynny fel menyw ifanc ar-lein.
Yn ôl ystadegau diweddar fe wnaeth 77% o ferched rhwng 11 a 21 oed brofi aflonyddu ar-lein y llynedd.
Dywedodd Ms Davies ar raglen Dros Ginio: "O'n i eisiau codi sylw a dweud 'dyw hwn ddim yn normal.
"Does dim rhaid i [fenywod] ddweud 'O mae hwn jyst yn rhan o fod yn fenyw ar-lein'. Mae hwn ddim yn iawn."