'Grêt gweld Cymru'n rhoi siawns i chwaraewyr ifanc'

Mae chwaraewr Caerdydd, Rubin Colwill, yn dweud ei fod yn mwynhau ei bêl-droed yn dilyn rhai cyfnodau anodd dros y blynyddoedd diwethaf, wedi iddo adennill ei le yng ngharfan Cymru.

Ag yntau dal ond yn 22 oed, bu'n jocian fod oedran nifer o'i gyd-chwaraewyr yn gwneud iddo "deimlo'n eithaf hen" yn y garfan bresennol.

Bydd Cymru'n herio Gibraltar ym Mhortiwgal nos Iau, cyn teithio i herio Slofacia ar gyfer gêm arall oddi cartref - y ddwy yn gemau cyfeillgar.

Chwaraewr canol cae Bolton Wanderers, Josh Sheehan fydd yn gapten nos Fawrth, gyda disgwyl i Gymru roi capiau cyntaf i sawl chwaraewr ifanc.