Gorymdaith yn Rhondda Fach i gofio 40 mlynedd ers diwedd Streic y Glowyr

Mae disgyblion ysgolion cynradd yn Rhondda Fach wedi bod yn gorymdeithio i nodi 40 mlynedd ers i lowyr yr ardal ddychwelyd i'r gwaith.

Mae'r orymdaith yn ail-greu y daith a gafodd ei chynnal yng Nglynrhedynog yn 1985 a'r glowyr yn dychwelyd i waith glo'r Maerdy.

Roedd cyn-lowyr yn cerdded hefyd, yn dal baneri gwreiddiol o'r cyfnod.

Fe ddaeth Streic y Glowyr i ben yn swyddogol ar 3 Mawrth 1985 ac fe ddychwelodd y glowyr i'w gwaith ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach.

Roedd disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn, Glynrhedynog ymhlith y rhai oedd yn gorymdeithio.

Maen nhw wedi bod yn dysgu am hanes y cyfnod yn yr ysgol.

Yn ôl eu hathro, Mr Griffiths: "Mae'r plant wedi dysgu pam a sut mae'r Streic wedi effeithio ar eu teuluoedd nhw, ar eu cymuned nhw ac ar y gymuned yn ehangach yn ne Cymru, ac hefyd dysgu'r achos a'r effaith o streic ar y glowyr i gyd.

"Mae'n bwysig bod y plant yn cofio ac yn anrhydeddu aberth y glowyr achos aethon nhw drwy gyfnod o galedi a hefyd, mae'n dod yn ôl at ddiwylliant y cymoedd.

"Mae'n bwysig bod y plant yma'n holi am straeon adre gyda'u tadcu, eu hen dadau-cu, a bod nhw jyst yn cydnabod y caledi aeth y glowyr ma drwyddo yn yr 80au."