Maethu: 'O'n i'n nerfus, ond naethon nhw drin fi fel teulu'

Mae corff Maethu Cymru yn dweud eu bod yn wynebu "her", wrth iddyn nhw edrych i recriwtio 800 o ofalwyr maeth newydd erbyn 2026.

Mae pythefnos codi ymwybyddiaeth am ofal maeth yn cael ei gynnal rhwng 12 a 25 Mai eleni.

Un sydd â phrofiad uniongyrchol o'r system ydy Aneesa Khan, 21.

Cafodd ei geni ym Mhacistan cyn symud gyda'i theulu i ogledd Cymru pan roedd hi'n bump oed, ac fe aeth at deulu maeth ar ôl marwolaeth un o'i rhieni.

Mae hi mor werthfawrogol o'r system, mae'n dweud y byddai hi'n ystyried maethu ei hun yn y dyfodol.

Mae Meleri Williams, sy'n maethu ar ei phen ei hun ers sawl blwyddyn, yn pwysleisio pa mor werthfawr ydy'r profiad hefyd.

"Mae o'n rhywbeth mor rewarding i 'neud," meddai, gan ychwanegu ei fod o fydd i'r rhieni maeth a'r plant.

Bu'r ddwy yn rhannu eu profiadau nhw o faethu gyda'n gohebydd Carwyn Jones.