Ydych chi'n cofio chwareli triog Dyfed?
Yn ôl yn y 1970au fe ddarlledodd rhaglen Heddiw adroddiad am ddiwydiant unigryw yn hen sir Dyfed, sef y diwydiant chwareli triog.
Roedd yr "arbenigwr", Dr Bill Fowler, yn honni fod y triog wedi ffurfio rai miloedd o flynyddoedd yn ôl pan oedd hinsawdd Cymru'n "drofannol" ac yn debyg i "dde Sbaen neu ogledd Affrica". Golyga hynny fod planhigion siwgr y gansen (sugarcane) yn tyfu yma a dros y miloedd o flynyddoedd maent wedi'u cywasgu i ffurfio craig driog.
Mae'r cyflwynydd, Ruth Parry, yna'n cael cwmni aelod o "Fwrdd Marchnata Triog" sy'n egluro iddi am y tri math gwahanol o driog sydd, a'r saith chwarel driog sydd yna yng Nghymru.
Yn yr adroddiad cawn hefyd ddysgu am sut mae troi'r mwyn i fod yn driog mewn pecyn ar silff y siop.
Chwarae teg, roedd yn dipyn o ymdrech ar gyfer tric ffŵl Ebrill!