Clwb rygbi'n 'annog pobl eraill i agor allan a siarad'

Rhybudd: Mae'r erthygl ganlynol yn cynnwys gwybodaeth allai beri gofid.

Mae un o glybiau rygbi’r gogledd wedi sefydlu grŵp i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl.

Bwriad aelodau Clwb Rygbi Nant Conwy ger Llanrwst ydy ei gwneud hi’n haws i chwaraewyr, cefnogwyr ac aelodau o’r gymuned ehangach i drafod materion sy’n eu pryderu.

Bu farw un o’u chwaraewyr, Aaron Newman, wedi iddo ladd ei hun yn 20 oed y llynedd.

Fel rhan o ymgyrch Dal Dy Dir, bydd rhai o aelodau Clwb Rygbi Nant Conwy yn gwisgo dillad a breichledau i roi gwybod i eraill y gallan nhw helpu gyda chymorth iechyd meddwl.

Un aelod o’r pwyllgor ydy Alun Jones, sy’n hyfforddwr sydd wedi byw gydag iselder yn y gorffennol ar ôl colli baban i meningitis 17 mlynedd yn ôl.

“Tan mae rhywun yn agor allan ac yn siarad a derbyn lle ma' nhw o fewn y broses o iselder, yna does yna ddim modd symud allan ohono fo,” meddai Mr Jones.

“Yn anffodus iawn fel teulu mi ddaru ni gael colled enbyd o golli Mam jest cyn 'Dolig flwyddyn diwetha' 'ma. Ac yn anffodus hunanladdiad oedd hynny.”