Alopesia: 'Mae byw bywyd yn bwysicach'

Mae menyw ifanc sydd wedi byw gydag alopesia ers iddi fod yn 13 oed yn dweud bod ei "gwallt yn dal i fod yn rili bwysig ond mae byw bywyd yn bwysicach erbyn hyn".

Er i Nicole Thomas gael triniaeth lwyddiannus yn ystod ei harddegau, fe ddechreuodd hi golli ei gwallt unwaith eto y llynedd.

Dywedodd ei bod wedi "dod i ddysgu sut i ddelio efo'r cyflwr" er ei bod "dal yn rili anodd o ddydd i ddydd".

Mae bellach yn rhannu cynnwys digidol, sy'n cyrraedd miliynau o bobl, a hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.