Wilkinson 'wedi rhoi cymaint o hyder i'r chwaraewyr' - James

Mae capten Cymru Angharad James wedi canmol cyfraniad Rhian Wilkinson ers iddi gael ei phenodi fel rheolwr flwyddyn yn ôl.

Yn ystod ei chyfnod wrth y llyw mae Cymru wedi sicrhau eu lle yn Euro 2025, gan gyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf yn eu hanes.

Bydd y crysau cochion yn wynebu Sweden ar Y Cae Ras yn Wrecsam nos Fawrth yng Nghynghrair y Cenhedloedd, ar ôl colli o 1-0 yn Yr Eidal nos Wener.

Bydd sylwebaeth fyw o'r gêm rhwng Cymru a Sweden ar BBC Radio Cymru o 19:00 nos Fawrth.