'Pobl y Gurnos yn gweld bod y Gymraeg i bawb nawr'

Mae Cylch Meithrin y Gurnos ym Merthyr Tudful yn esiampl o sut mae'r iaith Gymraeg ar dwf yn yr ardal, a hynny ar ôl cynyddu o fod ag un plentyn pan agorodd yn 2023, i 27 erbyn hyn.

Myfanwy Harman wnaeth sefydlu'r cylch, a dywedodd bod pob un plentyn wedi symud ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg y tymor yma.

Ond mae 'na bryderon nad yw'r llwybr at addysg Gymraeg yn gwbl glir, yn bennaf gan nad oes ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y sir.

Mae rhieni ac ymgyrchwyr yn galw am wneud mwy i ddatblygu addysg iaith Gymraeg yn yr ardal.

Dywed Cyngor Merthyr Tudful eu bod yn "cynnal astudiaethau dichonoldeb i'r gwahanol ddewisiadau ar gyfer darpariaeth uwchradd" yn y Gymraeg.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.