'Dod yn ôl i chwarae i Gymru yn grêt' - Angharad James

Mae capten Cymru Angharad James yn dweud na fyddai hi'n "newid dim" am ei sefyllfa bresennol, er ei bod yn gorfod teithio miloedd o filltiroedd er mwyn cynrychioli ei gwlad.

Mae James, yn ogystal â Jess Fishlock, yn chwarae i Seattle Reign ym mhrif adran yr Unol Daleithiau.

Mae'r ddwy newydd wneud y daith hir adref unwaith eto ar gyfer y gêm yn erbyn Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

"I ddod yn ôl i chwarae i Gymru, mae'n foment grêt i fi a dwi mor falch i chwarae i Gymru," meddai James.