Gareth Edwards yn cofio camu i 'sgidiau Barry John!
Wrth i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad nesáu, mae Syr Gareth Edwards wedi bod yn hel atgofion am gemau'r gorffennol yn erbyn Ffrainc.
Yng nghanol y straeon, mae e hefyd yn cofio am gael galwad munud olaf i ganu a dawnsio ar Sioe Ryan a Ronnie gan gamu i esgidiau Barry John ar gyfer un o'r golygfeydd mwyaf cofiadwy yn hanes y sioe boblogaidd.
Mae'r cyfweliad i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bore Sul ac yna ar BBC Sounds.