Methu dod o hyd i ddeintydd yn 'andros o bryder'
Mae mam o Fethel ger Caernarfon yn dweud ei bod wedi methu â dod o hyd i ddeintydd Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) newydd ers i'w deintydd blaenorol droi'n breifat yn 2021.
Dywedodd Kelly O’Donnell, 41 oed, bod ganddi bedwar o feibion ac felly doedd mynd at ddeintydd preifat "ddim yn opsiwn oherwydd y costau uchel".
“Dwi jyst methu ffeindio unrhyw le sy’n cymryd cleifion newydd ar y gwasanaeth iechyd," meddai.
"Gwaeth na hynny, dwi wedi cael sawl lle yn dweud bod eu rhestrau aros nhw’n llawn hyd yn oed.
“Mae’n andros o bryder achos dim ond un set o ail ddannedd ‘da ni’n cael a dim ots faint dwi’n pwysleisio, ac yn dweud wrth y plant bod angen brwsio dannedd a pheidio bwyta pethau melys maen nhw’n mynd i fynd yn groes i hynny."
Mae’r sefyllfa yn achos pryder i Aelod Seneddol Arfon, Sian Gwenllian, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor er mwyn ceisio mynd i’r afael a’r broblem.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, does dim cynlluniau pendant i agor ail ysgol ddeintyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, ond maen nhw’n gweithio i recriwtio a chadw mwy o ddeintyddion yng Nghymru.