Ansicrwydd budd-daliadau yn achosi straen mawr - dynes ag MS

Mae dynes sydd â sglerosis ymledol (MS) yn dweud ei bod yn "poeni'n fawr" am newidiadau i fudd-daliadau a bod yr ansicrwydd yn "achosi stress mawr" iddi hi.

Mae Sara Sanderson Williams o Lan Ffestiniog, Gwynedd yn un o'r 275,000 o bobl o oedran gweithio yng Nghymru sy'n hawlio Taliad Annibynnol Personol (PIP).

Dywedodd y fam 35 oed bod yr arian yn hanfodol ar gyfer "day to day living efo prisiau popeth 'di mynd fyny" ac nad ydi hi'n gwybod eto sut fydd y newidiadau yn effeithio arni hi.

Daw ei sylwadau wrth i ganghellor Llywodraeth y DU fanylu ar doriadau lles yn Natganiad y Gwanwyn.