Uchafbwyntiau Cymru yn erbyn Denmarc

Colli oedd hanes Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener, yn erbyn Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

1-2 i Ddenmarc oedd y sgôr, yn dilyn goliau gan Signe Bruun ac Amelie Vangsgaard - a'r unig gôl i Gymru yn dod trwy Ceri Holland.

Mae Cymru yn cystadlu yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd yng ngrŵp 4, gyda'r Eidal, Denmarc a Sweden.

Fe fydd carfan Rhian Wilkinson yn teithio i Gothenburg nesaf i wynebu Sweden yn Stadiwm Gamla Ullevi ar nos Fawrth 8 Ebrill.

Dyma rhai o uchafbwyntiau'r gêm.