'Oedd Liam Payne ag amser i bawb' - Lloyd Macey

Bu farw'r canwr, Liam Payne, a oedd yn rhan o'r grŵp pop adnabyddus, One Direction ddydd Mercher ar ôl disgyn oddi ar falconi mewn gwesty yn Buenos Aires.

Dywedodd yr heddlu iddyn nhw gael eu galw i'r gwesty yn dilyn adroddiadau o "ddyn ymosodol a allai fod o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau".

Wrth siarad ar Dros Frecwast ddydd Iau, fe fu Lloyd Macey - cyn-gystadleuydd yn y rhaglen X-Factor a oedd yn gyfrifol am fodolaeth One Direction - yn rhannu ei atgofion o fod yng nghwmni Liam Payne yn ystod y gystadleuaeth.

"Ges i dipyn o sioc neithiwr rhaid i fi gyfadde’," dywedodd.

"Beth wnaeth fy nharo i fwyaf oedd gweld ei ddyddiad - 1993 i 2024 - a meddwl, diawch mae e'r un oed â fi, 31.

"Mae e mor ifanc, a gadael ei fab nawr, a'i deulu a'i ffrindiau, a'r holl bobl sydd wedi bod yn cefnogi One Direction. Mae e'n andros o drist."

Ychwanegodd "bod gydag e amser i bawb - roedd e'n ddyn hyfryd".