Canfed cap Hayley Ladd yn 'haeddiannol'

Mi fydd amddiffynnwr Cymru, Hayley Ladd, yn ennill ei chanfed cap rhyngwladol yn erbyn Yr Eidal nos Wener, gyda'r ymosodwr Carrie Jones yn dweud ei bod hi'n haeddu'r anrhydedd o gyrraedd y garreg filltir.

Hayley Ladd fydd y degfed chwaraewr yn hanes Cymru, o dimau'r dynion a merched, i gyrraedd 100 o gapiau.

Mi fydd Cymru'n wynebu'r Eidalwyr yn Monza, sef eu gêm gyntaf yn eu hymgyrch ddiweddaraf yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Denmarc a Sweden ydi'r ddau dîm arall yn y grŵp.

Fe fydd sylwebaeth o gêm yr Eidal v Cymru ar BBC Radio Cymru, gyda'r gic gyntaf am 17:15.