Gwenwyn plwm plentyn 'fel arwyddion awtistiaeth'
Mae o leiaf 698 o safleoedd yng Nghymru allai fod wedi eu llygru gyda chemegion neu fetelau gwenwynig a allai beri risg uchel i iechyd y cyhoedd, yn ôl ymchwil gan y BBC.
O'r rheiny, dim ond 112 o'r safleoedd sydd wedi cael eu harchwilio - er ei bod hi'n ofynnol i gynghorau archwilio safleoedd a allai fod wedi eu llygru.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydnabod fod profi safleoedd sy'n cael eu hystyried yn risg uchel yn bwysig, ond bod hynny'n anodd oherwydd diffyg arian.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi comisiynu adolygiad i edrych ar y sefyllfa, ond does dim mwy o arian wedi'i glustnodi ar hyn o bryd.
Mae teulu Manon Chiswell yn credu ei bod hi wedi cael ei gwenwyno tra'n blentyn ar ôl bwyta pridd yn yr ardd oedd yn cynnwys plwm - er nad yw hynny wedi ei brofi.
Eglurodd ei thad, y canwr a'r cerddor Huw Chiswell, fod rhai doctoriaid yn credu fod Manon yn awtistig, ond dangosodd prawf gwaed ei bod hi wedi ei gwenwyno â phlwm - metal gwenwynig sy'n gallu amharu ar ddatblygiad ymennydd plant ac achosi problemau i organau'r corff.
Er nad oes modd profi mai'r pridd oedd ar fai, roedd tŷ'r teulu yng Nghaerdydd wedi'i leoli ger hen reilffordd mewn ardal sy'n cael ei chysylltu gyda lefelau uchel o blwm.