Pa mor bell yw Maes B o faes yr Eisteddfod?

Fe wnaeth Maes B agor ei drysau yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf fore Mawrth.

Bydd y gigs yn dechrau yno nos Fercher, pan fydd Yws Gwynedd yn cloi'r noson yn dilyn perfformiadau gan Sywel Nyw, Kim Hon, HMS Morris, Y Dail a Dadleoli.

A hithau'n eisteddfod drefol, sut mae cyrraedd Maes B o faes y brifwyl - a pha mor hir yw'r daith?

Alyssa o griw Cymru Fyw sy'n eich tywys drwy Bontypridd at Faes B.