'Ges i wybod dros WhatsApp nad oedd gen i gytundeb'

Mae Nia Jones wedi dweud mai dros WhatsApp y cafodd hi wybod na fyddai'n cael cytundeb newydd gyda thîm pêl-rwyd Dreigiau Caerdydd.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd fod angen cyfathrebu gwell o fewn chwaraeon menywod, a bod yn rhaid cael "trafodaethau anodd" er budd pawb.

Wedi iddi beidio â chael cytundeb newydd gyda Dreigiau Caerdydd, penderfynodd na fyddai hi'n ceisio sicrhau lle yn nhîm pêl-rwyd rhyngwladol Cymru chwaith - tîm mae hi wedi bod yn gapten arno.

Mae hi bellach wedi penderfynu troi ei chefn ar bêl-rwyd ar y lefel uchaf, ac wedi arwyddo i Glwb Pêl-droed Abertawe ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Fe wnaeth Jones ennill 30 cap i dîm pêl-droed rhyngwladol Cymru rhai blynyddoedd yn ôl, cyn iddi ganolbwyntio ar ei gyrfa pêl-rwyd.

Mewn datganiad, dywedodd Dreigiau Caerdydd fod trafodaethau dros gytundebau "wastad yn anodd, gyda nifer o ffactorau i’w hasesu".

"Pan nad oes cytundeb yn cael ei gynnig, mae 'na broses yn cael ei dilyn gyda phob chwaraewr.

"Rydym ni'n parhau i ddysgu wrth i ni weithredu ar y prosesau hyn, ac rydym ni wedi siarad gyda Nia yn uniongyrchol er mwyn ceisio deall ei safbwynt hi.

"Rydym yn dymuno’n dda i Nia ar ei phennod nesa, ac mae ein diolch yn fawr iddi unwaith yn rhagor am bopeth mae hi wedi gwneud dros y gamp."