'Dim sôn am yr etholiad, pawb yn trafod y Gynghrair Haf'
Yn Nyffryn Clwyd, mae pêl-droed yr haf yn draddodiad a ddechreuodd ddegawdau yn ôl.
Wedi ei sefydlu yn 1926 mae Cynghrair Haf Llandyrnog a'r Cylch bron yn 100 oed, ac yn denu timau o gymunedau ar draws siroedd Conwy a Dinbych.
Mae'r gynghrair hon yn unigryw gan fod yn rhaid i'r chwaraewyr fyw oddi fewn dalgylch y gymuned y maent yn ei chynrychioli.
Mae'r ffiniau hyn wedi aros yn weddol sefydlog ers bron i ganrif, sy'n wahanol iawn i etholaethau San Steffan.
Aeth BBC Cymru Fyw i glywed barn rhai sydd wedi bod yn gwylio ac yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth am yr etholiad cyffredinol.