Rhewgell wedi'i thaflu o gefn fan at gar heddlu

Mae fideo wedi ei ryddhau o rewgell yn cael ei thaflu o gefn fan at gar yr heddlu yn Llantrisant.

Dechreuodd swyddog o heddlu'r de ddilyn y fan wen Peugeot ar ôl derbyn adroddiadau fod ganddi rifau cerbyd ffug.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd i botel, sbaner, a rhewgell gael eu taflu o’r fan wrth i'r heddlu geisio stopio'r cerbyd oedd yn teithio i gyfeiriad Tonyrefail.

Fe wnaeth y fan stopio'n sydyn cyn gyrru'n ôl at gar yr heddlu sawl tro.

Cafodd gyrrwr y fan, Daniel Symmons o Stryd Kenry yn Nhonypandy, ei ddedfrydu i 10 mis yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd am yrru’n beryglus.

Roedd Mr Symmons wedi pledio’n euog i yrru’n beryglus, gyrru heb yswiriant, achosi difrod troseddol, ac ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys.

Bydd yn rhaid iddo dreulio hanner ei ddedfryd dan glo, cyn treulio gweddil y ddedfryd yn y gymuned. Mae wedi ei wahardd rhag gyrru am 23 mis.