Cipolwg ar gyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd

Mae camerâu Cymru Fyw wedi cael cyfle i edrych tu mewn i gyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd.

Bydd yr orsaf yng nghanol y ddinas yn agor ddydd Sul, 30 Mehefin.

Daw hyn wedi saith mlynedd o oedi - y bwriad gwreiddiol oedd agor y safle 'nôl yn 2017.