Rowndiau rhagbrofol Euro 2025: Uchafbwyntiau Cymru 1-1 Wcráin

Cafodd Cymru gêm gyfartal rwystredig yn erbyn Wcráin yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewro 2025.

Ildiodd Cymru eu gôl gyntaf o’r ymgyrch ar ôl dim ond tair munud yn Llanelli, wrth i gamgymeriad Rhiannon Roberts adael i Veronika Andrukhiv rwydo.

Tarodd y tîm cartref yn ôl wedi’r egwyl wrth i’r eilydd Kayleigh Barton sgorio gyda chic o’r smotyn.

Ond er i Gymru greu nifer o cyfleoedd i sgorio ail gôl, amddiffynnodd Wcráin yn gadarn i sicrhau pwynt haeddiannol.

Mae Cymru dal ar frig Grŵp B4 gyda saith pwynt o’u tair gêm agoriadol, tra bod Wcráin dal yn drydydd gyda phedwar pwynt.

Bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd eto yng Ngwlad Pwyl nos Fawrth.