Teithio 7,000 o filltrioedd i ymweld â'r Eisteddfod

Mae criw o ddisgyblion ac athrawon wedi teithio 7,000 o filltiroedd o Batagonia i ymweld â Chymru.

Fel rhan o ysgoloriaeth Mudiad Meithrin, mae athrawon o'r Wladfa wedi cael y cyfle i arsylwi addysg Gymraeg mewn ysgolion ar draws Cymru.

Dyma'r trydydd tro i Maria ymweld â Chymru, ac mae hi'n edrych ymlaen at fynd i Eisteddfod yr Urdd ym Meifod.

Dywedodd: "Mae gennym ni llawer o eisteddfodau yn y Wladfa felly dwi'n edrych ymlaen at weld sut mae plant yn cystadlu yma."

Fe ddysgodd Jessica siarad Cymraeg pan oedd hi’n 17 oed, ac yn dweud fod methu siarad Saesneg wedi cyflwyno sialens iddi.

Dywedodd Lowri, merch Maria: "Dwi'n edrych ymlaen at fynd i'r Eisteddfod."

Bydd criw o Ysgol y Gaiman hefyd yn cystadlu yn rhithiol.