Harris yn 'falch' o'i hun wedi blwyddyn 'anhygoel'

Wedi blynyddoedd o hyfforddi, fe ddaeth yr awr i Medi Harris o Borthmadog gystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf.

Er iddi berfformio yn dda yn y ras 100m dull cefn, ni wnaeth Medi lwyddo i gyrraedd y rownd nesaf gydag amser o 1:00:85.

Fe orffennodd Medi yn y pedwerydd safle ar bymtheg, tri safle yn unig o gyrraedd y rowndiau cynderfynol.

Roedd Medi yn emosiynol wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd ei bod yn "rili falch bo fi yma, dwi'n cweit anodd ar fy hun so dwi'n cweit prowd o lle dwi wedi cyrraedd".

Bydd Medi yn troi ei golygon nawr at gystadlu fel rhan o dîm cyfnewid 4x200m dull rhydd Prydain ddydd Iau.