Cwestiynu dyfodol Venue Cymru os na ddaw cyllid
Mae yna ofnau y bydd un o ganolfannau adloniant amlycaf y gogledd yn colli nawdd ariannol sylweddol ac mae pryderon ynghylch cyflwr yr adeilad.
Roedd yna gyhoeddiad fis Mawrth y llynedd y byddai Venue Cymru, Llandudno, yn derbyn £10m o'r gronfa Codi'r Gwastad wedi i'r llywodraeth Geidwadol ddiwethaf yn San Steffan glustnodi £100m ar gyfer prosiectau diwylliannol.
Ond ers i'r Blaid Lafur ddod i rym ym mis Gorffennaf, mae amheuon wedi codi nad yw'r arian bellach ar gael.
Byddai'r arian wedi mynd at welliannau i'r adeilad, sy'n cynnwys arena, theatr ac adnoddau cynadledda.
Ond roedd Cyngor Sir Conwy hefyd yn gobeithio gwario cyfran ar gynllun dadleuol i symud llyfrgell Llandudno o ganol y dref i Venue Cymru.
Dywedodd Trystan Lewis, Cynghorydd Ward Llansannan fod Venue Cymru yn "adnodd hynod o bwysig" i'r ardal.
Dywedodd ei fod yn "biti" fod y lleoliad yn "mynd i lawr yn is ar y rhestr".
"Ond mewn gwirionedd bydd yn rhaid i ni edrych ar yr adnoddau sydd gennym ni i'r dyfodol, a gofyn a fydd y cyngor yn gallu rhedeg Venue Cymru a'r holl adnoddau.
"Mewn gwirionedd dwi ddim yn siŵr a ydi o'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol ffordd mae'n mynd," ychwanegodd.