Addasiad Cymraeg-Gwyddeleg o’r gân ‘Dog Days are Over’

Mae aelodau’r Urdd a phrosiect ieuenctid Gwyddelig TG Lurgan wedi rhyddhau fideo cerddoriaeth newydd yn Gymraeg a Gwyddeleg, fel rhan o gydweithrediad rhwng y ddau fudiad ieuenctid.

Mae eu fideos cerddorol eisoes wedi denu dros filiwn o wylwyr, a’r prosiect diweddaraf yw addasiad Cymraeg-Gwyddeleg o’r gân ‘Dog Days are Over’ gan Florence & the Machine.

Dyma’r wythfed cydweithrediad cerddorol rhwng yr Urdd a TG Lurgan.

Dechreuodd y cydweithio yn Ionawr 2021 gyda’r fideo ‘Golau’n Dallu / Dallta as na Solise’ - addasiad o’r gân ‘Blinding Lights’ gan The Weeknd - a gafodd dros 100,000 o wylwyr o fewn mis.

Ym mis Awst 2024, recordiodd 400 o bobl ifanc o TG Lurgan a 30 o aelodau’r Urdd fideo newydd yn Connemara, Iwerddon, a pherfformio mewn cyngerdd byw.

Mae'r fideo llawn i'w weld yma, dolen allanol.