Dafydd Iwan yn rhoi teyrnged i Dewi 'Pws' Morris

Mae Dafydd Iwan wedi rhoi teyrnged i'r diweddar Dewi 'Pws' Morris.

Dywedodd wrth BBC Cymru ei bod yn "anodd iawn cloriannu bywyd rhywun fel Dewi Pws, achos o'dd o mor amryddawn a mor unigryw".

"Welwn ni ddim Dewi Pws arall," meddai.

Ond ychwanegodd, y tu ôl i'r comedi, ei fod wirioneddol o ddifrif am ddyfodol y wlad a'r iaith.

"Yn y bôn mi roedd o'n ddyn dwys, a doedd rhywun ddim yn gweld yr ochr yna iddo fo yn aml, ond mi roedd o yn un oedd yn poeni," meddai Dafydd Iwan.

"Roedd o'n poeni'n wirioneddol am ddyfodol y Gymraeg a dyfodol Cymru, ond bod o'n cuddio tu ôl i'r facade o'r comedïwr a'r clown.

"Fe fydda i yn ei gofio fel cyfaill triw ac annwyl iawn."