'Cyfle i drafod rygbi efo'r cleifion yn yr ysbyty, mae hwnna'n ecseitio fi'
Ym mis Awst, bydd y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Jamie Roberts, yn cyfnewid y bêl hirgron am stethosgop ac yn cwblhau ei hyfforddiant fel meddyg.
Er iddo raddio o Ysgol Feddygaeth Caerdydd dros ddegawd yn ôl, mae'r cyn-ganolwr yn dechrau ar ddwy flynedd o hyfforddiant sylfaen mewn ysbytai yn ne Cymru.
Yn ystod ei gyfnod yn chwarae rygbi fe enillodd 94 o gapiau dros Gymru a chynrychioli'r Llewod, gan sgorio 14 cais.
Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad yn 2008 ac yn 2009 cafodd ei enwi yn chwaraewr y gyfres yn dilyn taith y Llewod i Dde Affrica.
Er ei fod hefyd yn chwarae i'r Gleision ar y pryd, fe lwyddodd i gwblhau gradd meddygaeth.
Jennifer Jones aeth i'w holi am y cam nesaf yn ei yrfa.