Dronau yn helpu i ddal gyrwyr e-feiciau anghyfreithlon

Mae dronau'r heddlu wedi cael eu defnyddio i olrhain a dal gyrwyr e-feiciau sy'n achosi niwsans neu sy'n gweithredu'n anghyfreithlon – mewn tacteg a allai gael ei fabwysiadu mewn mannau eraill yn y DU.

Ym mis Mawrth, cafodd grŵp o e-feicwyr eu dilyn trwy ardaloedd Alway a Ringland yng Nghasnewydd gan ddefnyddio drôn "llygad yn yr awyr", gan helpu swyddogion i ddarganfod ble'r oedd un o'r beiciau'n cael ei gadw.

Dywedodd Uwcharolygydd Heddlu Gwent, Jason White, wrth gynghorwyr y ddinas fod y drôn wedi cael ei ddefnyddio "i effaith dda iawn" a bod hyn yn ddull mwy diogel na dulliau traddodiadol.

Ychwanegodd fod swyddogion yn clywed "dro ar ôl tro" am y defnydd o e-feiciau pwerus.