Heddlu'n ymateb wedi adroddiadau bod dyn yn glynu wrth gar

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad brynhawn Mercher yn dilyn adroddiadau bod dyn yn glynu wrth gar ar ffordd brysur yng Nghaerdydd.

Roedd y cerbyd dan sylw yn teithio ar yr A48 i gyfeiriad y gorllewin ger Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mewn lluniau fideo o'r digwyddiad sydd bellach wedi eu rhyddhau, mae'n ymddangos bod unigolyn yn gafael ar flaen y cerbyd wrth iddo symud.

Mae gyrrwr y car wedi cael ei arestio ac yn dal i gael ei holi gan swyddogion.