'Mae hi 'di bod yn flwyddyn anodd' ers colli Aaron
Rhybudd: Mae'r erthygl ganlynol yn cynnwys gwybodaeth allai beri gofid.
Mae un o glybiau rygbi’r gogledd wedi sefydlu grŵp i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl.
Bwriad aelodau Clwb Rygbi Nant Conwy ger Llanrwst ydy ei gwneud hi’n haws i chwaraewyr, cefnogwyr ac aelodau o’r gymuned ehangach i drafod materion sy’n eu pryderu.
Bu farw un o’u chwaraewyr, Aaron Newman, wedi iddo ladd ei hun yn 20 oed y llynedd.
Yn ôl ei deulu a’i ffrindiau mae angen i bobl fedru siarad yn agored am eu problemau.
Yn ôl un o ffrindiau a chyd-chwaraewyr Aaron, doedd dim awgrym fod ei ffrind yn dioddef pan welson nhw ei gilydd ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth.
Yn siarad gyda BBC Cymru dywedodd cyfaill iddo, Carwyn Jones, ei bod hi "wedi bod yn flwyddyn anodd" ers colli Aaron.