Podlediad Gwleidydda yn fyw o faes yr Eisteddfod

A hithau'n wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, mae podlediad Gwleidydda wedi mynd allan o'r stiwdio ac i faes y Brifwyl ym Mhontypridd.

Wedi'i recordio o flaen cynulleidfa fyw, y prif bwnc trafod gan Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yw'r heriau sy'n wynebu Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan.

Maen nhw hefyd yn dadansoddi etholiad y Senedd yn 2026, a sut fydd y system bleidleisio newydd yn gweithio.

Ac i gloi mae ychydig o gwestiynau gan y gynulleidfa.

Gwrandewch ar y podlediad ar BBC Sounds.