'Mae'n bwysig clywed yr iaith Gymraeg ar raglen fel The Archers'
Fe wnaeth yr actores Mali Harries, sy'n chwarae rhan Natasha Archer yn The Archers ar BBC Radio 4, ymweld â Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mercher.
Mewn cyfweliad ar y maes, fe siaradodd am ei rôl yn y gyfres eiconig, ei chysylltiadau amaethyddol, a phwysigrwydd ymgorffori'r iaith Gymraeg yn y gyfres ddrama.
"Fi'n credu bod e'n bwysig ein bod ni'n clywed yr iaith Gymraeg ar raglen fel The Archers... a bod e'n ddim byd anarferol i glywed rhywun sydd yn siarad iaith gwahanol o fewn stori'r Archers."
Rhannodd Mali gyd-ddigwyddiad rhyfeddol hefyd - dod ar draws dyn yn gynharach yn y dydd sydd bellach yn ffermio'r union dir lle cafodd ei magu.