Storm Darragh yn achosi llifogydd yn Yr Wyddgrug
Dyma'r olygfa yn Yr Wyddgrug, wrth i ddraeniau orlifo ac achosi llifogydd yn sgil y storm.
Mae rhybudd melyn am law mewn grym ar gyfer mwyafrif y wlad tan 21:00 heno, ac mae rhybudd oren, mwy difrifol, mewn grym tan 18:00 ar gyfer rhannau o'r de.
Mae'r tywydd hefyd wedi taro gwasanaethau trên, fferi, a hediadau.
Am 13:00 mae 22 rhybudd llifogydd mewn grym ar draws Cymru yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn ôl yr asiantaeth mae'r rhain yn golygu y dylid disgwyl llifogydd, a bod angen gweithredu ar unwaith.
Mae 66 o rybuddion i fod yn barod am lifogydd hefyd wedi eu cyhoeddi - dyma'r rhybuddion lleiaf difrifol.