Y llywodraeth yn 'pwyso' ar gwmniau trydan i adfer pŵer

Mae'r prif weinidog Eluned Morgan yn dweud fod ei llywodraeth "wedi bod yn rhoi pwysau ar y gwasanaethau trydan i sicrhau bod nhw'n 'neud popeth posib i ailgysylltu pobl" yn dilyn Storm Darragh.

Fore Iau roedd tua 2,500 o gartrefi yn parhau heb drydan yng Nghymru - y cyfan yn ardal y National Grid yn hanner deheuol y wlad.

"Maen nhw wedi bod yn gweithio yn ddiwyd iawn dros y dyddiau diwethaf," meddai Ms Morgan ar Dros Frecwast.

"Maen nhw wedi dod â phobl ychwanegol mewn o Loegr i helpu allan, ond dwi yn poeni yn arbennig am y rhai sydd yn hen, sydd yn dal i fod mewn sefyllfa nag ydyn nhw yn gallu rhoi'r gwres ymlaen.

"Gobeithio bydd pethe yn cael eu gwella ond dwi yn gwybod bod y busnesau yna yn cadw golwg.

"Mae rhestr gyda nhw o bobl sydd mewn sefyllfa fregus ac mae llywodraeth leol hefyd yn yr ardal sydd dal heb gyswllt yn cynnig help."