Pam newid y map etholaethol ar gyfer y Senedd?

Mae etholaeth sy'n ymestyn o ben pellaf Pen Llŷn yr holl ffordd i'r ffin â Lloegr ymhlith yr awgrymiadau ar gyfer etholaethau newydd Senedd Cymru.

Yn rhan o'r newidiadau fydd yn gweld cynnydd yn nifer y gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn 2026, mae'n rhaid ail-lunio'r map etholaethol.

Lle bo 40 etholaeth a phum rhanbarth yn cael eu cynrychioli yn y Senedd ar hyn o bryd, dim ond 16 etholaeth fydd yna adeg yr etholiad nesaf.

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru bellach wedi cyhoeddi'r awgrymiadau cyntaf ar gyfer yr etholaethau newydd.

Cemlyn Davies sy'n egluro pam fod yn rhaid newid y map etholaethol.