Ymateb Tylluan Wen wedi 30 mlynedd yn fy 'llonni' - Siân James
Mae Siân James yn dweud bod gweld ffilm Tylluan Wen yn dal i gael sylw bron i 30 mlynedd ers ei rhyddhau yn ei "llenwi efo hapusrwydd".
Roedd y gantores a'r actores yn ymateb i'r ffaith fod bar siocled newydd o'r enw Gwdihŵ wedi ei ryddhau gan y cwmni o Ynys Môn, Mr Holt's, gyda'r ffilm eiconig yn ysbrydoliaeth i'r enw.
Mae hi bellach yn 30 mlynedd ers i Angharad Jones - fu farw yn 2010 - ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergele yn 1995, am ei nofel 'Y Dylluan Wen',
Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Ms James fod gweld y gwaith yn dal i ddenu ymateb hyd heddiw yn "llonni fy nghalon i ddweud y gwir".
"Dwi'n gwybod bod y ffilm ei hun yn o dywyll, ond mae'r holl beth a'r holl ymateb dros y blynyddoedd yn llenwi fi efo hapusrwydd," meddai.
"A dwi'n gwybod y bysa fy ffrind Angharad Jones - a ysgrifennodd y nofel enwog Tylluan Wen, a wnaeth gyfrannu hefyd at y sgriptio ar gyfer y ffilm - dwi'n gwybod 'sa hi wrth ei bodd efo'r holl beth, yr holl syniad fod Tylluan Wen yn cael y fath sylw.
"Dwi'n teimlo'n freintiedig dros ben."